Mae pob digwyddiad yn unigryw ond mae’r profiad rydych chi fel cyfranogwyr yn ennill yn gallu bod yn fythgofiadwy. Byddech chi’n gwneud ffrindiau sy’n medru para am oes a gwella eich dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau, crefyddau ac arferion. Mi fyddech yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, profi byw a chymysgu gyda 30-50,000 o bobl ifanc o ar draws y byd. Mi fyddech yn dysgu sut i gyfathrebu gyda phawb er gwaethaf gwahaniaethau ieithyddol, cydweithio a chael hwyl.


Mi fyddech yn darganfod bod cymaint i wneud mewn cyn lleied o amser (gweithgareddau trwy gydol y dydd a’r noswaith) a’ch bod yn medru goroesi heb lawer o gwsg. Mi fyddech yn ymweld ag unedau gwahanol o o amgylch y byd a chael eich gwahodd i aros (a hyd yn oed gwahodd eraill i’ch uned chi). Ar ddiwedd y Jambori mae’r cyfle i gael profiad byw gyda Theulu Sgowtio a rhannu ei ddiwylliant a bwyd.


Rydw i wedi bod yn ddigon lwcus i arwain dwy Uned i’r Jambori Sgowtiaid Byd Eang. Nid yw’n hawdd oherwydd eich bod yn gyfrifol am dri arweinydd arall a 36 person ifanc yn bell o gartref, ond mae hynod o werth chweil. Trwy’r broses o wersylloedd hyfforddiant, digwyddiadau a chodi arian er mwyn cefnogi ei hun a’r uned, maen nhw’n newid grŵp o deithwyr mewn i uned gyda 4 patrol, yn gweithio gyda’i gilydd fel ffrindiau.


I unrhyw arweinydd sy’n ceisio penderfynu os ddylen nhw wneud cais i fod yn Arweinydd Uned neu wirfoddoli ar gyfer y Tîm Gwasanaeth Rhyngwladol, rydw i’n dweud ewch amdani. Byddech chi ddim yn ei ddifaru.
I’r Sgowtiaid sy’n ceisio penderfynu os ydy hyn werth y gwaith caled, cost, codi arian a gwersylloedd hyfforddiant; ewch amdani! Bydd gennych chi atgofion, profiadau a ffrindiau sy’n para oes. Mae rhai sydd wedi bod o’r blaen yn barod i’ch helpu mewn unrhyw ffordd er mwyn sicrhau bod cymaint ohonoch chi ag sy’n bosib cael yr un profiadau!
Os ydy Explorer yn mynd i fod yn rhy hen erbyn amser y Jambori ac yn mynd i fod yn aelod o’r Network, neu aelodau’r Network nawr mae hynod o werth fod yn aelod o’r Tîm Gwasanaeth Rhyngwladol. Mae’n brofiad gwahanol ond mae hynod o werth chweil.