Cyflwyniad i’r Sgowtiaid
Cymdeithas y Sgowtiaid yw’r sefydliad ieuenctid mwyaf y DU, rydym yn credu mewn paratoi pobl ifanc sydd â sgiliau am oes. Rydym yn annog ein pobl ifanc i wneud mwy, dysgu mwy a bod yn fwy. Bob wythnos, rydyn ni’n rhoi cyfle i dros 460,000 o bobl ifanc rhwng 6 – 25 oed fwynhau hwyl ac antur wrth ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen nhw i lwyddo. Rydyn ni’n siarad amdan waith tîm, arweinyddiaeth a gwytnwch – sgiliau sydd wedi helpu’r Sgowtiaid i ddod yn bopeth o athrawon a gweithwyr cymdeithasol i ofodwyr ac Olympiaid. Rydym yn credu mewn dod â phobl ynghyd. Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ac yn sefyll yn erbyn anoddefgarwch, bob amser. Rydyn ni’n rhan o fudiad byd-eang, yn creu cymunedau cryfach ac yn ysbrydoli dyfodol cadarnhaol.
Nid yn unig ydyn ni’n sefydliad ieuenctid mwyaf y DU, y Mudiad yn ei gyfanrwydd yw’r sefydliad ieuenctid cyd-addysgiadol mwyaf yn y byd, gyda dros 32 miliwn o aelodau mewn 216 o wledydd a thiriogaethau.
Amdan ein gwaith
Hyd yn oed os na allwn ddatrys yr holl broblemau yn y byd, gallwn helpu i’w wneud yn lle gwell. Mae Sgowtiaid yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas trwy helpu pobl ifanc i ddatblygu fel aelodau gweithgar o’r gymuned:
- sy’n hunanddibynol
- sy’n ofalgar
- sy’n gyfrifol
- sy’n dangos ymrwymiad
Mae Sgowtiaid yn gweithio’n dda pan fydd pobl ifanc yn mwynhau dysgu trwy weithio mewn partneriaeth ag oedolion. Maen nhw’n gwneud hyn trwy:
- cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau newydd
- archwilio’r awyr agored
- cymryd rhan mewn timau
- cymryd cyfrifoldeb
Enw ein dull ar gyfer rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu trwy wneud yw “Y Rhaglen”. Mae’r Rhaglen yn ddilyniant parhaus o hyfforddiant, gweithgareddau a gwobrau sy’n cynnwys popeth y mae pobl ifanc yn ei wneud wrth Sgowtio rhwng 6 a 25 oed.
Oeddet ti’n gwybod?
Yn cymharu â’r rhai nad ydyn nhw yn y mudiad, y Sgowtiaid yw:
- 17% yn fwy tebygol o ddangos sgiliau arwain
- 11% yn fwy tebygol o fod yn well datryswyr problemau
- 19% yn fwy tebygol o ddangos deallusrwydd emosiynol
- 17% yn fwy tebygol o allu gweithio’n dda mewn timau
- 32% yn fwy tebygol o fod yn egnïol yn gorfforol
Yn y Sgowtiaid, mae gan ein oedolion gyfrifoldeb i sicrhau bod y Rhaglen yn hwyl ac yn gyffrous. Rhaid inni hefyd sicrhau ei fod yn ddiogel. Mae polisïau, rheolau, cod ymddygiad Cymdeithas y Sgowtiaid, cyngor ar Amddiffyn Plant a pholisi diogelwch yno i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cadw’n ddiogel wrth iddynt fwynhau eu hunain a dysgu.
Pwy all fod yn Sgowt?
Mae’r Sgowtiaid yn agored i bob person ifanc rhwng 6 a 25 oed o bob ffydd a chefndir.
Mae yna hefyd ddigon o gyfleoedd i oedolion i ymuno un o’r timau fel Aelod Tîm neu Arweinydd.