Yn 2019, mynychodd Megan (Ein Comisiynydd Ieuenctid Ardal) 24ain Jamboree Sgowtiaid y Byd yn yr UDA. Gofynasom iddi ddweud wrthym bum peth a ddysgodd wrth fynychu:

1. Roedd coginio yn ran masif o’r profiad. Yn ein patrôls, oedd rhaid coginio ar gyfer 40 person! Ac, wrth gwrs, roedd gan bawb anghenion dietegol a dewisiadau eu hunain. Nesh i ddysgu sut i goginio ar gyfer swm reit fawr o bobl ac er nai ddim ennill dim gwobrau, nath neb farw, felly dwi’n cysidro hynny i fod yn reit positif!

2. Paid a fod ofyn i ddangos eich wlad! ‘Culture day’ oedd un o’r dyddiau wnes i joio fwyaf. Y diwrnod lle nath bawb gwisgo fyny mewn gwisg traddodiadol (nathom ni ddewis dillad hynod o draddodiadol, fel da chi’n gallu gweld) neu coginio bwyd cenedlaethol, yn dathlu eu gwlad. Roedd cael gweld diwylliannau pobl eraill yn brofiad anhygoel. Rhannu ein gwahaniaethau, ond ar yr un pryd, cysylltu trwy fod yn sgowtiaid, oedd un o’n teimaldau gora dwi erioed wedi profiadu.

3. Cymwch bob un cyfle i archwilio. Nathon ni ymweld â Efrog Newydd, Washington D.C. a Rheadrau Niagara. Cafom ni amser cyfyngiedig yn Efrog Newydd, felly oedd rhaid iddyn ni gwneud y fwyaf ohonni! Cafom ni fwy o amser yn Washington D.C., felly oedd rhaid i mi flaenoriaethu be’ o’n isho gweld fwyaf. Roedd cael archwilio dinas hyfryd a llawn hanes yn uchafbwynt pendant, ond ‘swn i ‘di licio gwneud mwy o’r cyfle.

4. Paid byth, byth, byth anghofio côt. Byth. O’n i’n disgwyl diwrnodau chwilboeth pob dydd, ac er dyna beth oedd y tymheredd rhanfwyaf o’r amser, erbyn diwedd ein amser ar y gwersyll, roeddem ni’n bron a boddi oherwydd y glaw. Yn anffodus, toeddwn i ddim mor barod a be ddylswn i di fod (sa Lord B-P yn siomedig iawn), a nesh i ond dod â poncho hefo fi. A’r poncho mwya’ tena’ da chi erioed ‘di gweld! Hefyd odd hi’n reit oer yn y nos (rhywbeth nesh i’m disgwyl), felly cofiwch edrych ar tymheredd y nos hefyd, cyn i chi fynd!

5. Cofleidiwch heriau! Yng Nghanada, pan nathom ni aros hefo grŵp sgowtiaid lleol, toedd ‘na’m cawodydd (yikes! Bach yn drewllyd ar y pwynt yna), felly oedd rhaid iddym cymryd cawod yn y canolfan hamdden lleol. Er nad oedd hyn yn gyfleus iawn, cafom ni diwrnod gwych, allan yn y gymuned. Yn y bôn, paid a phoeni gymaint os ‘di pethau ddim yn berffaith, jyst addaswch i’r sefyllfa a joiwch, dim ots beth yw’r canlyniad.