gan Alys Bailey-Wood

#SgowtioGartref #ScoutsMon

Ers i Sgowtio wyneb-wrth-wyneb wedi gorfod stopio oherwydd y Coronafeirws, mae rhai o’n grwpiau wedi bod yn ffeindio ffyrdd arall o gwrdd. Mae Beavers, Cubs a Sgowtiaid Llanfairpwll i gyd wedi bod yn brysur gyda chyfarfodydd a gweithgareddau wythnosol, ac yn gwneud y gorau allan o methu cyfarfod mewn person.

Beavers a Cubs

Mae’r Beavers a’r Cubs wedi bod yn derbyn sialensau a gweithgareddau gan eu arweinwyr, o gwneud neidiadau seren yn nillad eu rieni i gwneud cacennau mewn mwg. Pob wythnos mae’n nhw’n cyfarfod dros Zoom (fel nifer o’n grwpiau) a mwynhau llawer o weithgareddau i fwynhau tra ei bod nhw’n aros adref.

Un o gyfarfodydd Zoom wythnosol niferus Cubs Llanfairpwll

Sgowtiaid

Mae Sgowtiaid Llanfairpwll wedi bod yn mwybhau cyfarfodydd wythnosol dros Zoom hefyd, ac maen nhw wedi bod yn brysur gyda nifer o weithgareddau Sgowtio. Gwnaethon nhw fwynhau cymryd rhan mewn camp ar-lein ar ddiwedd Ebrill, yn ogystal â tân ddigidol ym Mai lle chwaraeon nhw cerddoriaeth a hyd yn oed coginio tu allan. Maen nhw hefyd wedi gwneud hunanbortreadau, ail-greu hen paentiadau, creu gludweithiau o’r ardal maen nhw’n byw a chafodd 3 Sgowt eu arwisgio dros Zoom.

Nid yw Sgowtio yr un peth ag oedd cyn y Coronafeirws, ond mae ein grwpiau wir yn gwneud y gorau o’r sefyllfa. Diolch enfawr i’w arweinwyr ar gyfer y cyfarfod anhygoel ar-lein, ac er ein bod ni’n gobeithio gallu fynd nôl i Sgowtio’n wyneb-wrth-wyneb yn fuan mae’n ardderchog gweld ein pobl ifanc yn dal i fod ynghlwm a gweithgareddau wythnosol trwy Sgowtio.  

Tan gwersyll rhithwir ar gyfer Sgowtiaid Llanfairpwll
Girl with a Pearl Earring, Vermeer
Girls At The Piano, Renoir