Ar 30fed Ebrill 2020, cymerodd Sgowtiaid dros yr ardal ran yn y #GwersyllaAtGartref, mewn ymgais i helpu Sgowtiaid Northumberland i dorri record y byd am y nifer fwyaf o bobl sy’n gwersylla yn ystod digwyddiad – ac fe wnaethon ni ei dorri! Cymerodd tua 95,000 o Sgowtiaid, Geidiau, Arweinwyr, rhieni a brodyr a chwiorydd ran, gan dorri’r record flaenorol o 65,000!

Un o’r grwpiau a gymerodd ran oedd 1af Llanfairpwll – gwnaeth y Sgowtiaid yno bopeth o osod tentiau i adeiladu cuddfannau yn eu hystafelloedd. Doedd eu harweinydd, Adrian, ddim yn rhy hapus am gael ei ddeffro am 5am gan gorws y wawr serch hynny!