Doeddwn i byth yn meddwl bydd gen i’r cyfle i fod yn rhan o’r Team of Ten, ac mae’n brofiad wnai byth anghofio. Wnes i geisio ar y dyddiad cau (ar ol perswadio fy hun i wneud ar ol wythnos!) a meddwl, “pam lai? O leiaf mae siawns wnai fynd i’r camp ddethol a cael penwythnos hwyl!” Ges i amser arbennig yn ystod y penwythnos – cwrdd a pobl newydd, cael lot of hwyl yn ystod y gweithgareddau ac ar ol cyrraedd adref heb feddwl mwy amdani…..a wedyn ges i galwad ffon yn fy wahodd i’r tim! Roeddwn i’n rhan o’r Colour Party – mae rhaid i mi gyfaddef, roedd yn waith caled. Yny sydyn rwyt ti’n mynychu penwythnosau ymarfer gyda 9 person arall o wahanol lefydd rwyt ti ond wedi cwrdd ag unwaith o’r blaen, ac o fewn rhai wythnosau roedd pawb yn agos iawn yn rhannu’r profiad anhygoel yma. Aethon ni i penwythnos ymarfer unwaith y mis o mis Ragfyr tan mis Ebrill, ymarfer ar ben ein hun rhwng y penwythnosau, siarad lot gyda’n gilydd i cadw trac o bopeth, gwnio bathodynnau nifer o weithiau i sicrhau bod popeth yn y llefydd iawn – a dwi eisiau gwneud popeth eto!

Ar diwrnod y parêd roeddwn i’n teimlo mor falch o fy hun, ac mae’n debygol taw dyma’r peth mwyaf arbennig wnai wneud yn ystod fy mywyd yn Sgowtio. Does dim byd tebyg i’r teimlad o gerdded lawr canol y Quadrangle, gyda pawb yn edrych arnat ti, yn gwybod eich bod chi’n rhan o nifer bach iawn o bobl sy’n cael y cyfle i’w wneud.

I ymgeisio i fod yn rhan blwyddyn nesaf, dilynwch y link:

https://www.scouts.org.uk/national-events/windsor/take-part/take-centre-stage/how-to-apply

Rydym ni angen mwy o bobl Cymreig i ymeisio – dim ond 2 ohonom ni oedd yno yn ystod y penwythnos ddethol felly rydym ni angen fwy o gynrychiolaeth!