Network Cymru

Yr Network Sgowtiaid yw ein pumed a’r olaf adran ar gyfer pobl 18 i 25 oed.

Os ydych chi’n hollol newydd i Sgowtio neu wedi bod hefo ni ers 5 oed, mae ymuno’n ffordd wych i gyfarfod a pobl newydd, chwilio am heriau newydd a weld y byd. Oherwydd nid yw bod yn oedolyn yn golygu mae’n rhaid i chi golli allan o’r holl hwyl.

Cwestiynau? Rydym wedi ateb rhai o’r rhai mwyaf cyffredin isod.

Newydd i’r Sgowtiau? 

Rydym ar agor i bawb, nid yn unig aelodau presennol. Dechreuwch yma. Mae’n am ddim!

Beth mae’r aelodau’r Network yn ei wneud?

 Mae’r Network Sgowtiaid yn cysylltu 20,000 o bobl 18 i 25 oed ar draws yr Deyrnas Unedig, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw i gymryd rhan mewn ystod enfawr o brosiectau cyffrous a digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y themâu ‘Antur’, ‘Cymuned’ ac ‘Rhyngwladol’. Os ydych chi’n trefnu cyfarfod lleol neu daith unwaith mewn oes i’r Amazon, mae’n ymwneud â chydweithio adeiladu sgiliau newydd, chwilio am brofiadau newydd a gwneud gwahaniaeth yn y byd. 

Mae grŵpiau Network yn cael eu rhedeg yn hyblyg ac yn hunan-arweiniol. Gall aelodau creu proffiliau ar y wefan y Network Sgowtiaid, yn defnyddio’r platfform i gyfarfod a pobl eraill hefo uchelgeisiau tebyg ac i rannu eu cynnydd. Mae yna 395 bathodynnau rhithwir ar gael i’w gyflawni ar hyn o bryd, a hefyd gall aelodau weithio tuag at nifer o Wobrau Gorau. Rhestr llawn o’r bathodynnau a’r wobrau i’w gweld yma.

Pa mor aml mae aelodau Network yn cyfarfod?

Nid yw aelodau Network o reidrwydd yn cyfarfod pob wythnos. Efallai y bydd rhai yn cyfarfod ychydig weithiau’r flwyddyn i gwblhau un prosiect gyda’i gilydd. Efallai y bydd eraill yn deifio i fewn i lawer o wahanol brosiectau ar unwaith, neu’n cyfarfod yn fwy rheolaidd.

Ni waeth sut yr hoffech wneud pethau, gellir dod o hyd i gyngor ar sut i gael y gorau o brosiectau a digwyddiadau yma.

Pwy sy’n rhedeg y Networks Sgowtiaid?

Mae’r aelodau yn rheoli eu taith eu hunain, yn trefnu eu prosiectau eu hunain gyda’r gefnogaeth o’r District Scout Network Commissioner a Programme Coordinator (os oes un). Trwy gydol eu taith, gallent hefyd ryngweithio â Assistant County Commissioners (Network) – sy’n cynorthwyo gyda gweithgaredd Network trwy’r sir ehangach – a’r UK Scout Network Commissioner, sy’n goruchwylio gweithgaredd Network dros y DU gyfan.

Oes yna gwisg?

Oes. Mae’r aelodau Network yn wisgo crys neu blows lliw carreg gyda bathodyn Newtork Sgowtio arno. Os ydyn nhw’n hoffi, gallant hefyd wisgo’r sgarff cenedlaethol yr Network Sgowtio’r DU neu eu sgarff leol o’u Network Sgowtio’r Ardal (sy’n gael ei galw fel necker).